Skip to main content
All United Kingdom tenders
United Kingdomservicesopen

RHOI: Ymgyrch Marchnata Integredig, Cyfathrebu a Newid Ymddygiad / Integrated Marketing, Communications and Behaviour Change Campaign

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Mae RHOI wedi cael ei ysbrydoli gan lwyddiant CopenPay ac mae'n rhan o'r dull rhyngwladol ehangach DestinationPay. Mae'r egwyddor sylfaenol yn syml: anogir pobl i wneud rhywbeth cadarnhaol ar gyfer y lleoedd maen nhw'n ymweld â nhw ac, yn gyfnewid, derbyn gwobr gan fusnes neu sefydliad sy'n cymryd rhan. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio i ddechrau ar Y Bala a Betws-y-Coed fel ardaloedd peilot, gyda'r nod o dyfu ar draws rhanbarth ehangach Eryri dros amser. Bydd gweithgareddau'n cael eu darparu gan amrywiaeth o sefydliadau partner, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau eraill. Bydd busnesau sy'n cymryd rhan yn darparu gwobrau i bobl sy'n cwblhau gweithgareddau cymwys. Mae enghreifftiau o'r mathau o ymddygiad y gallai RHOI eu hannog yn cynnwys dewis trafnidiaeth gyhoeddus, gwirfoddoli, cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu sbwriel neu gadwraeth, cefnogi gweithgareddau diwylliannol lleol, dysgu neu ddefnyddio'r Gymraeg, a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at gymunedau ac amgylchedd yr ardal. Nid yw'r rhaglen wedi'i bwriadu i weithredu fel cynllun disgownt na theyrngarwch confensiynol. Rhoddir pwyslais ar annog pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, gyda gwobrau'n darparu cymhelliant ychwanegol. Felly, dylai'r ymgyrch ganolbwyntio ar newid ymddygiad yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ac annog pobl i lawrlwytho’r ap. Ffordd ddefnyddiol o feddwl am daith y defnyddiwr arfaethedig yw: GWELD → DEALL → YMUNO → GWEITHREDU → DERBYN GWOBR → RHANNU → AILADRODD Disgwylir i'r cyflenwr llwyddiannus ddatblygu'r daith hon ymhellach a nodi'r cyfathrebiadau, yr ymyriadau ymddygiadol a'r gweithgaredd marchnata sydd eu hangen ym mhob cam. // Eryri National Park Authority is seeking to appoint an experienced marketing and communications supplier to develop and deliver an integrated bilingual Welsh/English marketing and behaviour-change campaign for RHOI, a new initiative designed to encourage visitors and local people to ta

Classification

AI proposal generator

Generate a structured solution proposal in 90 seconds

Kimi drafts an 8-section bid response — exec summary, technical approach, compliance matrix, indicative pricing, timeline, why-we-win — tailored to your company profile and this exact tender.

✓ Word + PDF + Markdown·✓ Editable·✓ Free regen if quality is poor
Generate proposalfrom €49 · or via subscription
View on source portal

Related opportunities

Similar tenders

Free tender alerts

Get a weekly digest of United Kingdom tenders

New United Kingdom tenders matching your interests, delivered to your inbox once a week — no app required. Add keywords and we'll filter the digest to match.